Yn ystod yr wythnosau diwethaf, bu cynnydd mawr yn yr adroddiadau ynghylch goryrru a gyrru peryglus trwy ein pentrefi, gyda'r henoed a phlant yn agored i’w niweidio.
Dywed Andrew Parkhurst: “Dylai canol ein pentrefi fod yn fannau diogel i gerddwyr yn hytrach nag ymdebygu i draciau rasio lle mae cerddwyr, yn llythrennol, wedi gorfod neidio o ffordd cerbydau sy’n goryrru.
“Ni ddylem orfod aros nes bod rhywun yn cael ei ladd neu ei anafu’n ddifrifol cyn cymryd camau.
“Mae'n bwysig serch hynny bod unrhyw fesurau a gymerir yn gwella ymddangosiad ac awyrgylch ein pentrefi felly hoffwn glywed eich barn ynglŷn â sut y gellir cyflawni hyn.”
Rhoi Gwybod am Ddigwyddiadau
Os yw'r person yr ydych yn amau sy’n goryrru neu’n gyrru'n beryglus yn hysbys i chi, efallai mai’r ffordd orau i ymateb fyddai cael gair tawel gyda'r unigolyn dan sylw oherwydd efallai na fydd yn sylweddoli bod ei (g)yrru yn broblem a bydd modd datrys y mater yn hawdd.
Dylid rhoi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru am ddigwyddiadau eraill, mae digwyddiadau sy’n cael eu riportio yn cael mwy o ddylanwad na thystiolaeth anecdotaidd.
Dim ond y lleoliad, yr amser, y dyddiad a disgrifiad o’r cerbyd sydd ei angen arnoch (ond gorau po fwyaf o wybodaeth).
I wneud hyn ffoniwch 101 neu ewch i:
www.northwales.police.uk/cy-GB/